Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Cyflwynwyd y diwygiad ADY newydd ym mis Medi 2021. Mae’r ddeddf ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) yn dweud bod gan unigolyn, anghenion dysgu ychwanegol, os oes ganddynt anhawster dysgu neu anabledd sy’n galw am ddarpariaeth dysgu ychwanegol.

 Y brif newidiadau?

  • Does dim cofrestr ar gyfer disgyblion sydd ag ADY
  • Ni fydd Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) mwyach, yn hytrach mae gan blentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sydd angen Darpariaeth Dysgu Ychwanegol (DDY) Gynllun Datblygu Unigol (CDU).
  • Bydd yr ymadrodd AAA yn cael ei ddisodli gan ADY.
  • Mae Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn un cynllun statudol ar gyfer oedrannau 0-25, sy’n bwrpasol i anghenion yr unigolyn ac mae ei angen am gyfnod estynedig o amser a dwyster.
  • Mae’n gynllun aml-asiantaeth, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn (PCP) ac mae ganddo fewnbwn rhieni.
  • Lle dylai darpariaeth resymol gael ei chynnig yn Gymraeg

Beth yw Darpariaeth Anghenion Dysgu?

  • Mae Darpariaeth Dysgu Ychwanegol (DDY) yn unrhyw ddarpariaeth dysgu sy’n cael ei darparu yn ychwanegol at y Ddarpariaeth Dysgu Cyffredinol (DDC) ac ymyriadau safonol wedi’u targedu sydd ar gael o fewn lleoliad yr ysgol.
  • Darpariaeth sydd ddim ar gael i bob disgybl yw Darpariaeth Dysgu Ychwanegol (DDY) ac mae’n ddarpariaeth hirdymor dros gyfnod estynedig.
  • Mae’r diffiniad o ADY hefyd yn cwmpasu dysgwyr y mae eu anhawster dysgu neu anabledd yn codi o gyflwr meddygol ond os oes gan blentyn gyflwr meddygol sy’n bodoli eisoes nid yw hyn yn golygu’n awtomatig y bydd ganddynt ADY.
  • Ni fyddai gan blentyn neu berson ifanc ADY os gellir mynd i’r afael â’i ddiffyg cynnydd neu anawsterau drwy addysgu gwahaniaethol rheolaidd a Ddarpariaeth Dysgu Cyffredinol (DDC) yr ysgol.

Mae’r ysgol yn gweithredu rhaglenni llythrennedd yn y Gymraeg (Tric a Chlic a SpellBlast) a Saesneg (IDL) er mwyn codi safon sgiliau sillafu a darllen. Rydym yn cydweithio â grŵp o ysgolion lleol yng Nghlwstwr y Preseli a Chaer Elen er mwyn sicrhau bod Asesiad Athrawon yn gywir a’i gymedroli’n gywir ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDPh): Llythrennedd, Iaith a Chyfathrebu, Mathemateg a Rhifedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Dyniaethau gan gynnyws RVE, Celfyddydau Mynegiannol ac Iechyd a Lles.

Rydym yn darparu sesiynau ymyrraeth Iaith a Mathemateg i dargedu grwpiau o ddisgyblion neu unigolion i hybu eu sgiliau a’u hyder yn y pwnc.  Mae gan yr ysgol aelodau o staff sydd wedi’u hyfforddi ELSAs (Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu Emosiynol).  Mae’r aelodau hyn o staff yn cefnogi disgyblion sydd angen cymorth i ddatblygu sgiliau emosiynol neu gymdeithasol. Yn ogystal â’r meysydd allweddol hyn o gefnogaeth rydym hefyd yn cynnig ystod eang o strategaethau cefnogi, ymyrraeth a dysgu eraill sydd wedi’u rhestru yn Darpariaeth Dysgu Cyffredinol yr ysgol (DDC). Ynghyd â’r grwpiau cymorth a dysgu hyn, mae’r cynorthwywyr cymorth dysgu o fewn yr ystafelloedd dosbarth yn cefnogi disgyblion yn ddyddiol gyda sgiliau darllen a gweithgareddau ymyrraeth amrywiol eraill i wella galluoedd dysgu disgyblion.

Mae polisi ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol sy’n cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd yn unol â’r ddeddf diwygio ADY newydd. Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol yw Mrs Vicky Griffiths, Sian Lear yw cynorthwyydd cymorth Cynhwysiant a Lles yr ysgol a’r llywodraethwr sy’n gyfrifol am ADY yw Mr Peter Oeppen.

Dolenni defnyddiol:

Gwasanaeth Bartneriaeth Rhieni Sir Benfro

Canllaw rhieni

SNAP Cymru