Yn Ysgol Hafan y Môr, rydym yn gwerthfawrogi ac yn credu ei bod yn bwysig i’n disgyblion gael eu grymuso i gymryd perchnogaeth o’u dysgu. Rydym yn sicrhau bod ein plant yn cael y cyfle i ddylanwadu ar benderfyniadau ysgol sy’n effeithio arnynt. Rydym yn cydnabod bod gan blant safbwyntiau rhesymegol a barn ar faterion sy’n bwysig yn eu hystafell ddosbarth, yn yr ysgol a’r gymuned ehangach. Rydym yn rhoi rôl weithredol i’r disgyblion wrth ddylanwadu ar benderfyniadau. Rydym yn grymuso ein plant i gymryd rhan fel dinasyddion ifanc gweithgar.
Erthygl 12 – Rhaid gwrando arnoch a’ch cymryd o ddifrif
Erthygl 13 – Mae gennych yr hawl i ddarganfod a rhannu gwybodaeth, a dweud beth yw eich barn.
Crynodeb o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn