Rydym hefyd wedi lansio gwisg ysgol Masnach Deg yn ddiweddar, mae’r manylion yn y ffrâm uchod. Mae’r prisiau’n cymharu’n ffafriol â’r ddau gyflenwr arall.
Mae gwisg swyddogol yr ysgol yn rhoi cyfle i’n disgyblion fod yn falch o’u hysgol, teimlo eu bod yn perthyn iddi a bod yn barod i gynnal safonau uchel o ymddygiad. Mae gwisg ysgol yn cynorthwyo’r ysgol i osgoi cystadleuaeth ddrud a niweidiol rhwng disgyblion. Dylid gofalu fod plant yn daclus yn dod i’r ysgol. Nid yw steiliau gwallt eithafol na lliwio gwallt eithafol yn dderbyniol yn yr ysgol. Mae’n bwysig bod enw’r disgybl yn glir ar bob dilledyn.
Mae modd archebu’r wisg drwy siop ‘Tees R Us ’ yn Nibych y Pysgod neu Myclothing.com.
Crys chwys / Cardigan | Glas tywyll gyda logo’r ysgol |
Crys polo | Crys polo ‘jade’ gyda logo’r ysgol |
Trowsus,sgert neu binafore*ffrog gingham glas tywyll a gwyn [merched] | Anogir lliw llwyd neu glas tywyll |
Gwisg Ymarfer Corff | Anogir crys-t gwyn gyda logo’r ysgol (di enw) a siorts glas tywyll |
- Am resymau diogelwch anogir clymu gwallt hir yn ôl.
- Dim ond clustdlysau sdydiau i gael eu gwisgo.
- Ni chaniateir sodlau uchel am resymau diogelwch.
- Gofynnir i bob plentyn gydymffurio efo’r canllawiau gwisg ysgol.