Ysgol Hafan y Môr

Croeso i Ysgol Hafan y Môr

Gyda’n gilydd, anelwn at frig y don!

Datganiad o Genhadaeth

(Ffocws ar heddiw)

I greu amgylchedd dysgu hapus, diogel ac ysgogol lle gall pob aelod o gymuned yr ysgol magu hyder ac i ddatblygu eu llawn botensial.

Datganiad o Genhadaeth

Mae ein hysgol yn deulu. Rydym yn dîm sy’n helpu ein gilydd i gyrraedd ein potensial llawn. Mae ein teulu ysgol yn canolbwyntio ar greu amgylchedd sy’n sicrhau bod pob unigolyn yn alluog, yn iach, yn greadigol ac yn wybodus tra hefyd yn canolbwyntio’n gryf ar les pawb. Mae Ysgol Hafan Y Môr yn ymfalchïo mewn bod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb wrth sicrhau cadw meddwl agored a bod yn deg bob amser. Mae gennym ddisgwyliadau uchel o ran safonau ac ymdrechu i wneud eich gorau yn ogystal â dangos parch, caredigrwydd, tosturi, ystyriaethau a bod yn onest bob amser. Rydym yn falch o’n cenedligrwydd, ein diwylliant a’n treftadaeth ac yn ganolbwynt gweithgar i’r gymuned Gymreig. Ein nod yw bod ein plant yn uchelgeisiol, yn alluog ac yn barod i ddysgu tra hefyd yn chwilio am gyfleoedd, ac yn cyfrannu fel dinasyddion yr 21ain ganrif.

Amcanion Cyffredinol

Cynnig amgylchedd hapus sy’n cefnogi pob aelod o gymuned yr ysgol i gyrraedd eu llawn botensial;

Sicrhau bod pob disgybl yn teimlo’n ddiogel, yn cael cefnogaeth ac yn hyderus wrth gynnig cyfle cyfartal i bawb;

Canolbwyntio ar les personol, ethos o ddysgu gydol oes a sgiliau annibynnol llwyddiannus;

Darparu cwricwlwm eang sy’n llawn tasgau cyfoethog sy’n sicrhau codi safonau a chodi dinasyddion gweithgar a gwybodus;

Cynnig addysg cyfrwng Cymraeg a fydd yn galluogi pob plentyn i gyflawni hyfedredd cyfartal yn y Gymraeg a’r Saesneg erbyn diwedd eu taith gynradd;

Sicrhau bod pawb yn gweithio at alluogi pob plentyn i gyrraedd ei lawn botensial yn y Sgiliau Sylfaenol, sef Llythrennedd, Rhifedd, TGCh a sgiliau meddwl;

Galluogi pob plentyn i ddatblygu ei hunaniaeth ddiwylliannol ei hun ac ar yr un pryd hyrwyddo ei ddealltwriaeth o ddiwylliannau eraill a’u parchu;

I gael awyrgylch agored glòs sy’n cynnwys rhieni, y gymuned a’n holl randdeiliaid.


Dyma fideo ar ddiwrnod agoriadol yr ysgol yn 2016. Ers hynny mae’r ysgol wedi tyfu tipyn gyda dros 230 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol a chylch meithrin llawn dop! Mae tua 92% o ddisgyblion yn dod o gartrefi di-Gymraeg ac yn gadael yr ysgol yn ddwyieithog.