Ni allwn orbwysleisio pwysigrwydd sefydlu perthynas bositif rhwng rhieni ac athrawon. Anelwn at feithrin a datblygu partneriaeth ymysg pawb sydd a rhan i’w chwarae yn addysg y plant. Bydd hyn yn cynnwys rhieni, athrawon, llywodraethwyr, yr Awdurdod Addysg yn ogystal â’r gymuned rydym yn byw ac yn gweithio ynddi.
Mae’r Corff Llywodraethol wedi tynnu ‘Cytundeb Ysgol-Cartref’ – dogfen sy’n amlinellu rôl a chyfrifoldebau y rhieni a’r ysgol yn addysg a datblygiad ein disgyblion.
Os hoffech weld copi o’r cytundeb yna ewch i adran polisiau o dan Gohebiaeth.