Rhieni a Ffrindiau'r Ysgol
Mae addysg pob plentyn yn bartneriaeth tair ffordd rhwng rheini, disgyblion a’r athrawon.
- Gwneir pob ymdrech i sicrhau fod rheini yn wybodus am waith yr ysgol drwy lythyron newyddion a gwybodaeth gyson.
- Trefnir cyfarfodydd ffurfiol rhwng rhieni ac athrawon ac mae ein polisi ‘drws agored’ yn croesawi cyswllt anffurfiol rhwng rheini ac athrawon yn gyson.
- Annogir rhieni i hybu dysgu eu plant gartref drwy eu cefnogi gyda’u gwaith cartref, darllen a dysgu tablau.
- Mae rhieni yn cynnig cefnogaeth ymarferol gwerthfawr i’r ysgol megis cefnogi gweithgareddau a mynd ar ymweliadau addysgol, hyn yn ogystal â chefnogaeth ariannol.
Cymdeithas Rhieni, Ffrindiau ac Athrawon
Mae gan yr ysgol Gymdeithas Rhieni, Ffrindiau ac Athrawon gefnogol a gwahoddir pob rhiant a ffrind o'r ysgol, i ymuno yn ei gweithgareddau. Nid yw’r gymdeithas hon yn bodoli yn unig ar gyfer `codi arian’.
Prif amcanion Cymdeithas Rieni, Ffrindiau ac Athrawon Hafan y Mor yw:
- I ddatblygu dealltwriaeth lawn rhwng rhieni ac athrawon.
- I gynorthwyo rhieni i ddeall datblygiadau diweddar mewn dysgu ac addysgu.
- I ddarparu gwybodaeth ehangach am y ddarpariaeth lleol a chenedlaethol o fewn addysg.
- I gefnogi gweithgareddau o bob math er mwyn hyrwyddo addysg a lles ein disgyblion.
- I gynorthywo’r ysgol i gynnal mwynderau na fyddent ar gael yn arferol, drwy gasglu arian.