Gwersi Addysg Gorfforol
Addysg Gorfforol.
Nôd
Datblygu cryfder, rheolaeth a chreadigedd y plant drwy eu hannog i fod yn gorfforol weithgar.
Amcanion
Cynhelir gwers addysg gorfforol yn wythnosol yn neuadd yr ysgol neu ar iard / cae’r ysgol.
Bydd y plant yn dilyn unedau gwaith sy’n cynnwys gymnasteg, dawns, nofio a gemau.
Canllawiau
- Disgwylir i bob plentyn newid i wisg addysg gorfforol, gellir prynu gwisg ymarfer corff yr ysgol o Tees R Us. Mae’n rhaid i bob disgybl gwisgo esgidiau ymarfer [trenyrs neu bympiau] addas ar gyfer y wers.
- er mwyn diogelwch ni chaniateir gwisgo modrwyau, clustdlysau nac oriawr mewn unrhyw wers addysg gorfforol,
- gofynnir yn garedig i’r rhieni hysbysu’r ysgol os oes unrhyw rheswm meddygol pan na all plentyn gymryd rhan mewn gwersi addysg gorfforol.
Yn ogystal â gwersi addysg gorfforol fe anogir disgyblion i gymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau chwaraeon, megis gêmau pêl-droed, pêl-rwyd, gala nofio ac ati.
Drwy amrywiol brofiadau corfforol gobeithir gosod sylfaen i fywyd iach a gweithgar a dysgu pob plentyn sut i gymryd rhan a mwynhau gweithgareddau corfforol.
Nofio
Rydym yn ceisio sicrhau bod plant o flwyddyn 2 i flwyddyn 6 yn cael cyfle i nofio oleiaf unwaith yn ystod y flwyddyn academaidd.