sunshine

 Clybiau a Gweithgareddau

Mae’r plant yn ymgymryd â nifer o weithgareddau amrywiol drwy’r flwyddyn ysgol.  Disgwylir i’r plant gymryd rhan a chynrychioli’r ysgol â balchder.   Mae nifer o’r gweithgareddau mewn cysylltiad â’r Urdd, ac felly, mae mwyafrif o’r plant Iau wedi ymaelodi â’r mudiad.

Perfformir cyngherddau tymhorol gan y disgyblion e.e. i’r Henoed yn ystod y Nadolig a Diolchgarwch.

 

Gwersyll yr Urdd Caerdydd, Llangrannog Canolfan Antur Llain

Mae disgyblion Iau yr ysgol yn cael cyfle i fynychu’r gwersyll a lletya am gyfnod er mwyn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau anturus a gweithgareddau awyr agored drwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg.

Codir tâl am y cwrs, a rhoddir cyfle i  rieni dalu’n wythnosol tuag at y costau. Mae’r cwrs hwn, yn ogystal â bod yn addysgiadol, wedi profi’n gyfle gwerthfawr i’r disgyblion gyfnewid profiadau, dysgu bod yn annibynnol, meithrin dinasyddiaeth a gofalu am eraill.

 

Medrusrwydd Beicio

Mae Cymdeithas Diogelwch y Ffordd Sir Benfro mewn partneriaeth â’r ysgol yn rhoi gwersi `Diogelwch ar y Beic’ yn ogystal â threfnu cwis ar Ddiogelwch y Ffordd.

Clwb Brecwast

Mae clwb brecwast rhad ac am ddim ar gael i’r disgyblion o 8.00 i 8.25 y.b.  Mae angen cofrestru ac mae rheolau’r ysgol yn berthnasol yn ystod y cyfnod hwn.

Atgoffir rhieni nad ydynt yn defnyddio’r clwb bod cyfrifoldeb yr ysgol am y plant yn cychwyn  15 munud cyn amser swyddogol dechrau’r ysgol.  O ran safbwynt diogelwch, ni ddylai plant sydd heb gofrestru gyda’r clwb brecwast gyrraedd yr ysgol tan 8.40 y.b.

 

Clwb Hwyl

Mae Clwb Hwyl Hafan y Môr, yn glwb ar ôl ysgol a gynigir trwy gydol y flwyddyn academaidd yn ddyddiol a sy’n darparu gofal cofleidiol tan 5:15yh ar gyfer disgyblion yr ysgol.  Pris y clwb (yn y lle cyntaf): £6 y plentyn, y dydd ac ar gyfer teuluoedd gyda dau blentyn neu’n fwy yn mynychu’r clwb (yn y lle cyntaf) ; £5 y plentyn, y dydd). Bydd y plant yn derbyn byrbryd yn y pris.

Arweinydd y Clwb yw Mrs Emma Rossiter.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch ar:

( 07983326857)