Croeso i Ysgol Hafan y Môr
Asesiad risg Ail Agor Ionawr 2022 (diweddarwyd 3.1.2022)
*************************************************
Newidiadau i’r drefn boreol a chasglu yn y prynhawn
Yn dilyn rheoliadau newydd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro, gofynnir yn garedig i bob rhiant / gofalwr wisgo gorchudd gwyneb wrth ddod â'u plentyn i'r ysgol a'u casglu. Mae hyn er mwyn sicrhau diogelwch parhaus pawb ac mae'n ceisio lleihau'r broses o drosglwyddo'r feirws yn y gymuned.
Hoffwn atgoffa'r holl rieni a gofalwyr hefyd fod yn rhaid iddynt gadw at y system un ffordd, dilyn y saethau gwyn a pheidio â cherdded ar draws iard chwarae'r iard gefn. Os yw rhieni/gofalwyr wedi casglu plant iau, cadwch nhw gyda chi wrth i chi aros yn y fan a'r lle i gasglu brawd neu chwaer hŷn. Gofynnaf yn garedig i rieni / gofalwyr gasglu eu plentyn/plant a gadael tir yr ysgol ar unwaith.
Mae'r mesurau hyn ar waith i geisio diogelu pawb a lleihau'r gyfradd drosglwyddo. Mae cyfradd drosglwyddo'r feirws yn cynyddu ar draws Sir Benfro ac o fewn ysgolion, gwnewch bob ymdrech i amddiffyn pawb a'n cefnogi, fel ysgol, drwy atgoffa eraill o'r mesurau presennol a newydd ar dir yr ysgol.
Gadael eich plentyn ar dir yr ysgol Bl. 3 ac iau
Os na fydd eich plentyn yn dod i'r clwb brecwast, sicrhewch eich bod yn aros gyda'ch plentyn yn y man priodol nes bydd athro dosbarth eich plentyn yn agor drws yr ystafell ddosbarth i ganiatáu i'ch plentyn fynd i mewn. Ni all plant ym ml.3 neu iau gael eu gadael ar eu pen eu hunain gan y gallai hyn achosi risg diogelu difrifol.
***********************************************
Ysgol Hafan y Môr yw'r ysgol Gymraeg gyntaf yn yr ardal ac fe'i hagorwyd ym mis Medi 2016. Mae'r ysgol yn cynnwys chwe dosbarth llawn amser oed cymysg ar hyn o bryd. Capasiti’r ysgol yw 210 o ddisgyblion llawn amser a 60 o ddisgyblion rhan-amser yn y dosbarth Meithrin. Derbynnir disgyblion i'r ysgol y tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd. Mae niferoedd y disgyblion wedi cynyddu'n sylweddol ers agor yr ysgol ac rydym yn parhau i dyfu.
Yn ogystal â'r ysgol, mae gennym Gylch Meithrin ar y safle, sydd ar agor yn ddyddiol ar gyfer plant 2 oed. Mae Cylch Ti a Fi ar gael hefyd sy'n rhedeg ar fore Mercher, prynhawn Iau a bore Gwener. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau cyn-oed ysgol drwy'r ysgol.
Datganiad o Genhadaeth
(Ffocws ar heddiw)
I greu amgylchedd dysgu hapus, diogel ac ysgogol lle gall pob aelod o gymuned yr ysgol magu hyder ac i ddatblygu eu llawn botensial.
Datganiad o Genhadaeth
(Ffocws ar y dyfodol)
Yn Ysgol Hafan y Môr, ceisiwn greu awyrgylch dysgu ac addysgu hapus, diogel a symbylus sydd yn darparu ar gyfer anghenion ysbrydol, moesol, meddyliol a chorfforol pob plentyn, trwy hybu ddisgwyliadau uchel trwy'r ysgol. Anelwn at sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfle i ddatblygu i’w lawn botensial a ffynnu o fewn diwylliant ysgol Gymraeg cariadus, digidol a chefnogol.
Amcanion Cyffredinol
I sicrhau bod ein dysgwyr yn uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes; (‘Dyfodol Llwyddiannus’)
I sicrhau bod ein dysgywr yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith; (‘Dyfodol Llwyddiannus’)
I sicrhau bod ein dysgywr yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd; (‘Dyfodol Llwyddiannus’)
I sicrhau bod ein dysgywr yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas; (‘Dyfodol Llwyddiannus’)
I gynnig addysg Gymraeg fydd yn galluogi pob plentyn i gyrraedd hyfedredd cyfartal yn y Gymraeg a'r Saesneg erbyn diwedd CA2;
I sicrhau bod pawb yn gweithio at alluogi pob plentyn i gyrraedd ei lawn botensial yn y Sgiliau Sylfaenol, sef Llythrennedd, Rhifedd, TGCh a sgiliau meddwl;
I alluogi pob unigolyn i ddod yn hyderus ac yn annibynnol yn ei ddysgu;
I annog y plant i ddangos ystyriaeth a pharch tuag at eiddo ac at eraill;
I annog y plant i ddangos balchder yn eu gwaith a'u hymddygiad ac i geisio am ragoriaeth yn ôl eu dawn ac aeddfedrwydd;
I ddatblygu'r Gymraeg fel iaith gyfrwng (yn addysgol ac yn gymdeithasol);
I alluogi pob plentyn i ddatblygu ei hunaniaeth ddiwylliannol ei hun ac ar yr un pryd hyrwyddo ei ddealltwriaeth o ddiwylliannau eraill a'u parchu;
I gael awyrgylch agored glòs sy'n cynnwys rhieni, y gymuned a'n holl randdeiliaid.
Presenoldeb Wythnosol:
(01.09.2021 –09.12.2021):
94.07%
Targed Presenoldeb: 95.2% (2021-22)
Bwletin Wythnosol